Neuadd y Pentref
Mae Neuadd y Pentref wedi ei leoli ar y B4343 rhwng pentrefi Pontrhydygroes ac Ysbyty Ystwyth. Pwyllgor o wirfoddolwyr sydd yn cymeryd gofal or adeilad ac maent yn cwrdd yn fisol. Mae'r adeilad yn cynnwys y neuadd fawr, ystafell gefn, cegin, toiledau dynion, merched ac anabl, mynediad addas i'r anabl, mae yno ddau faes parcio, ac ir ochr mae yna ardd gymunedol.
Mae y neuadd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o grwpiau lleol a medrwch ei hurio i gynnal digwyddiad neu barti.
I logi'r neuadd defnyddiwch y tab Calendr i weld os yw y Neuadd ar gael, i logi neu am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda:
Ian Williams, 6 Maesyderi, Pontrhydygroes.
e-bost: hall@ystwyth.org.uk
Ffon: 01974 282387