Mae Cyngor Cymuned Ysbyty Ystwyth yn cynnwys 8 aelod etholedig sy’n cynrychioli trigolion Ysbyty Ystwyth, Pontrhdydygroes a New Row. Mae’r cyngor yn cyfarfod ar yr ail nos Fawrth bob mis yn Neuadd y Pentref ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu.
Nid oes cyfarfodydd ym mis Awst a mis Rhagfyr.
Etholir cynghorwyr cymuned o’u ward ac maent yn gwasanaethu tymor pedair blynedd yn y swydd.
Caiff y cyfarfod ei gadeirio gan y cadeirydd a etholir am gyfnod o ddwy flynedd ariannol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Mae’r clerc yn paratoi’r hysbysiad o’r cyfarfod a’r agenda.
Mae’r cyngor cymuned yn codi tรขl cymunedol blynyddol neu braesept ar ei gartrefi, er mwyn ariannu ei weithgareddau. Y tรขl cyfredol yw ยฃ2500.00 ac nid yw wedi newid ers sawl blwyddyn flaenorol. Fe’i casglir gan y cyngor sir.
Dylid nodi bod y cynghorwyr yn wirfoddolwyr ac nad ydynt yn cael eu talu.