Flix in the Stix

Mae Flix yn y Stix Dyffryn Ystwyth yn grŵp o wirfoddolwyr sydd â’r nod o ddod â’r sinema i’r gymuned. Cynhelir cyfarfodydd bob mis. Llwyddodd y grŵp i ennill grant Gwobrau i Bawb gan y Loteri Genedlaethol ac maent wedi prynu a gosod offer yn Neuadd y Pentref i ddarparu adloniant ffilm i gymunedau Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth a’r cymunedau cyfagos.

Mae’r grŵp bellach yn dangos ffilmiau eto bob mis. Noson ffilm yw dydd Gwener cyntaf y mis. Bydd manylion y dangosiad ffilm yn cael eu hysbysebu ar y dudalen Facebook a’u hanfon at bob aelod ar y rhestr e-bostio.